Gwleidydda

Alle afleveringen

146 afleveringen, van nieuw naar oud

  1. Ydy Cymru'n Cyfri?

    4 november 2026 · 29 min

    Beluister deze aflevering
    A fydd rhagor o ddatganoli yn dod i Gymru ar ôl i Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth gwrdd yn Glasgow? Lees meer

    Mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod os yw'r berthynas rhwng llywodraethau Caerdydd a Llundain wedi newid yn dilyn y cyfarfod yn yr Alban

    Mae'n tri hefyd yn edrych ymlaen at yr Etholiadau Lleol yng Nghymru ymhen chwe mis.

    Ac ar ôl i'r Democratiaid gipio'r Gyngres yn Washington, beth fydd hyn yn ei olygu i arlywyddiaeth Donald Trump?

  2. Cyllideb Dewi Sant?

    28 oktober 2026 · 29 min

    Beluister deze aflevering
    Mae'n ddiwrnod prysur yn San Steffan! Gyda Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn ei chanol hi yn Llundain a Vaughan Roderick yng Nghaerdydd, y tri sy'n ymateb i gyhoeddiad y Gyllideb! Lees meer

    Mae nhw hefyd yn ystyried y goblygiadau i Gymru a'r posibilrwydd o etholiad cyffredinol cynnar.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  3. Gair o Gyngor gan yr Arglwydd Wigley

    21 oktober 2026 · 32 min

    Beluister deze aflevering
    Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ynglyn â datganoli pellach i Gymru a phenderfyniad y Llywodraeth i ohirio'r newidiadau yng Nghymru.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.

  4. Arian mân?

    14 oktober 2026 · 35 min

    Beluister deze aflevering
    Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol. Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn sgwrsio gyda'r cyn-Aelod o'r Senedd dros y Ceidwadwyr, Sam Kurtz.

    A chofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r tri trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  5. Beth nesa' i Polanski?

    9 oktober 2026 · 19 min

    Beluister deze aflevering

    Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.

  6. Y Pedwar Llew Tew

    7 oktober 2026 · 38 min

    Beluister deze aflevering
    Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones. Lees meer

    Mae nhw’n trafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth, araith Kemi Badenoch yng Nghynhadledd y Torïaid ac ymddiswyddiad dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Phil Davies.

    Mae’r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi - cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  7. Rhwng Dau Rosyn

    30 september 2026 · 29 min

    Beluister deze aflevering
    Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Lees meer

    Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  8. Ysgol David Hughes: Eton Cymru?

    23 september 2026 · 33 min

    Beluister deze aflevering
    Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd. Lees meer

    Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad dau arweinydd newydd i Reform yng Nghymru.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  9. Richard yn Rong am Reform

    16 september 2026 · 28 min

    Beluister deze aflevering
    Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon. Lees meer

    Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y goblygiadau o dderbyn aelod sydd wedi croesi'r llawr.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  10. Reform - Cai Parry-Jones

    9 september 2026 · 27 min

    Beluister deze aflevering
    Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd. Lees meer

    Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i ariannu'r blaid ar hyn o bryd.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  11. Penyberth

    7 september 2026 · 55 min

    Beluister deze aflevering
    Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar genedlaetholdeb heddiw, a hynny yng nghmwni Dafydd Iwan, Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis Valentine, y cyn farnwr Nic Parry a’r hanesydd Mari Wiliam. Lees meer
  12. Dau Brif Weinidog - Mis Mêl ar Ben?

    2 september 2026 · 28 min

    Beluister deze aflevering
    Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd?
    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
    Lees meer
  13. Cloch Clacton

    14 augustus 2026 · 21 min

    Beluister deze aflevering
    Yn dilyn rhifyn arbennig o'r Babell Lên yn Eisteddfod y Garreg Las, mae Bethan a Richard yn ôl yn y stiwdio yn dadansoddi canlyniad is-etholaiad Clacton on Sea. Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, yn ennill gyda 63% o'r bleidlais sy'n cael sylw y ddau. Lees meer
  14. Y Prif Weinidog yn Y Babell Lên

    7 augustus 2026 · 50 min

    Beluister deze aflevering
    Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las. Lees meer

    Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen gynulleidfa, mae'r Prif Weinidog yn trafod heriau ei swydd newydd, ei brofiad o lywodraethu, a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

    Mae'r gynulleidfa yn cael cyfle i holi cwestiynau. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  15. Amser a ddengys

    29 juli 2026 · 28 min

    Beluister deze aflevering
    Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham. Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn trafod strategaeth y ddau arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn drwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.

  16. Crafu'r Cregyn Llong

    22 juli 2026 · 24 min

    Beluister deze aflevering
    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Cymru ac yn holi beth mae ei benodiad yn ei olygu i ddatganoli.

    Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  17. Gwynfor a'r Gyllideb

    15 juli 2026 · 36 min

    Beluister deze aflevering
    Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Lees meer

    Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru.

    A 60 mlynedd wedi ethol Gwynfor Evans mae ei gyn-asiant, Peter Hughes-Griffiths yn edrych yn ôl ar lwyddiant y cyfnod a'r hyn yr oedd yn ei olygu i Blaid Cymru.

  18. Dadansoddi gyda Drakeford

    8 juli 2026 · 34 min

    Beluister deze aflevering
    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Lees meer

    Mae'r tri yn trafod be all dyfodol y blaid Lafur bod o dan arweinyddiaeth Andy Burnham, ymddiswyddiad Nigel Farage fel Aelod Seneddol a'r galw dros system bleidleisio newydd.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  19. Fformiwla Burnham?

    1 juli 2026 · 30 min

    Beluister deze aflevering
    Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon. Lees meer

    Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig o newid y drefn.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  20. Meseia heb fandad?

    24 juni 2026 · 28 min

    Beluister deze aflevering
    Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod pam penderfynodd Keir Starmer i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur. Lees meer

    Mae'r tri yn trafod be all Andy Burnham fel Prif Weinidog olygu i ddatganoli.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  21. Yr Ymddiswyddiad

    22 juni 2026 · 18 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl i Syr Keir Starmer gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur, beth nesa' i'r blaid a'r wlad? Lees meer

    Vaughan, Elliw a chyn Aelod o Senedd Cymru, Alun Davies sy'n dadansoddi'r cyfan.

  22. Buddugoliaeth i Burnham

    19 juni 2026 · 28 min

    Beluister deze aflevering
    Buddugoliaeth Andy Burnham yn is-etholiad Makerfield sy'n destun trafod i Vaughan a Richard. Lees meer

    Mae’r ddau yn dadansoddi beth mae hyn yn golygu i'r Prif Weinidog, Kier Starmerm ac yn ateb eich cwestiynau chi.

    Cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  23. Cip ar y Cyfansoddiad

    10 juni 2026 · 25 min

    Beluister deze aflevering
    Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Lees meer

    Mae’r ddau hefyd yn dadansoddi is-etholiad Makerfield yr wythnos nesa'.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  24. Pedwar Prif Weinidog

    3 juni 2026 · 27 min

    Beluister deze aflevering
    Pedwar Prif Weinidog Lees meer

    Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol.

    Mae'r tri hefyd yn trafod sesiwn holi gyntaf y Prif Weinidog.

    Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  25. Blair iawn

    27 mei 2026 · 35 min

    Beluister deze aflevering
    Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan Richard atebion i'ch cwestiynau chi. Lees meer

    Cofiwch fod modd i chi gysylltu â'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  26. Wythnos Mêl?

    20 mei 2026 · 26 min

    Beluister deze aflevering

    Vaughan, Richard ag Elliw yn trafod trafferthion y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yn edrych yn ôl dros ddyddiau cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru wrth y llyw yn y Senedd.

  27. Andy-bendod

    15 mei 2026 · 24 min

    Beluister deze aflevering
    Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau golygu. Lees meer

    Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  28. Amser i Lywodraethu

    13 mei 2026 · 25 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth. Lees meer

    Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  29. Canlyniad Hanesyddol

    8 mei 2026 · 25 min

    Beluister deze aflevering
    Mae Vaughan, Bethan a Richard yn cael cwmni y cyn-Brif Weinidog Llafur Carwyn Jones a'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones i ddadansoddi canlyniad hanesyddol yr etholiad. Lees meer

    Cofiwch bod modd i chi gysylltu a'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy ebostio gwleidydda@bbc.co.uk

  30. Cyfri'r Oriau

    5 mei 2026 · 24 min

    Beluister deze aflevering
    Gydag oriau yn unig cyn etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod tactegau'r pleidiau i sicrhau bod eu cefnogwyr yn mynd ati i bleidleisio. Mae'r tri yn asesu sut fath o ymgyrch sydd wedi bod a beth allwn ni ei ddisgwyl ddydd Gwener ar ddiwrnod y cyfri. Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  31. Cofio'r Cyfri

    2 mei 2026 · 20 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl cyflwyno deg etholiad cyffredinol, saith etholiad Cynulliad a Senedd, a phedwar refferendwm, etholiad y Senedd ar ddydd Gwener fydd yr etholiad olaf gyda Dewi Llwyd yn y gadair fawr. Lees meer

    Mewn pennod arbennig gyda Vaughan Roderick mae'r ddau yn trafod atgofion o ddyddiau Margaret Thatcher hyd at gyfnod Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan.

  32. Yr Wythnos Olaf

    29 april 2026 · 36 min

    Beluister deze aflevering
    Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan, Elliw a Richard yn trafod y diweddara' wrth i ni baratoi ar gyfer y bleidlais.
    Mae'r pedwar yn edrych nol ar y dadleuon teledu, trafod yr arolwg barn diweddara’ ac yn dadansoddi sut all y nifer sy'n mynd ati i bleidleisio effeithio ar y canlyniad wythnos nesaf.
    Mae'r panel hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.
    Lees meer
  33. Dadansoddi'r Dadlau

    23 april 2026 · 21 min

    Beluister deze aflevering

    Wedi ei recordio yn syth ar ôl y Ddadl Fawr yng Nghaerfyrddin, Alun Thomas, Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n cnoi cil ar y dadlau.

  34. Dadleuon a Dadansoddi

    22 april 2026 · 32 min

    Beluister deze aflevering
    Elliw Gwawr, Yr Athro Richard Wyn Jones a Betsan Powys sy'n trafod y diweddaraf yn yr ymgyrch etholiadol. Gyda nifer o ddadleuon teledu wedi bod a mwy ar y gorwel, faint o wahaniaeth mae nhw'n ei gael? Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn dadansoddi'r arolygon barn diweddaraf.

    Mae Elliw, Richard a Betsan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  35. Ymgyrch Dawel?

    15 april 2026 · 21 min

    Beluister deze aflevering
    Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Cymru hyd yma, gan edrych yn benodol ar faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn ateb cwestiynau'r gwrandawyr. Lees meer

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  36. Newid Byd

    8 april 2026 · 35 min

    Beluister deze aflevering
    Mae Vaughan yn ôl ac yn ymuno â Bethan a Richard i drafod sefyllfa'r Dwyrain Canol a sut mae digwyddiadau yno am newid ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru? Lees meer

    Mae'r tri yn trafod cyhoeddi maniffesto'r Blaid Werdd ar gyfer Etholiad y Senedd fis nesa'. Ac mae Etholiad Senedd Yr Alban hefyd yn cael sylw'r tri.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  37. Fetio cyn Fotio

    1 april 2026 · 41 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl i nifer o ymgeiswyr dynnu eu henwau yn ôl, mae Bethan a Richard yn trafod y fetio mae'r pleidiau'n gorfod ei wneud cyn Etholiad y Senedd. Lees meer

    Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae Aelod o'r Senedd Llafur Alun Davies yn trafod gobeithion y blaid yn yr etholiad.

    Ac mae Bethan a Richard yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  38. Ta Ta Criw '21

    25 maart 2026 · 30 min

    Beluister deze aflevering
    Gyda thymor y chweched Senedd yn dod i ben - mae Bethan a Richard yn trafod y newidiadau sydd wedi bod i'r pleidiau dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae gwleidyddiaeth Cymru wedi newid. Lees meer

    Mae Richard yn trafod yr arolwg barn diweddaraf ar etholiad y Senedd ym mis Mai a chawn glywed am gysylltiad Byrllysg y Senedd a maes awyr Heathrow.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  39. Y Llywydd - Degawd yn y Gadair

    23 maart 2026 · 29 min

    Beluister deze aflevering
    Gyda thymor y Senedd yn dod i ben, fe aeth Bethan Rhys Roberts i'r siambr newydd y Senedd ym Mae Caerdydd i holi'r Llywydd, Elin Jones. Mewn cyfweliad estynedig mae'r ddwy yn trafod ei degawd yn y swydd, cyfarfod y Frenhines am y tro olaf a beth all y dyfodol edrych ar ol etholiad mis Mai. Lees meer
  40. Tu ôl i'r Llen - Y Paratoi at Lywodraethu

    18 maart 2026 · 31 min

    Beluister deze aflevering
    Gyda 50 diwrnod tan etholiad Senedd Cymru, mae cyn bennaeth staff y Prif Weinidog yng nghyfnod Mark Drakeford, Des Clifford sy'n ymuno â Bethan a Richard i drafod y paratoadau sy'n digwydd o fewn y gwasanaeth sifil i'r posibilrwydd o lywodraeth newydd. Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn trafod sylwadau gan gyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw nad oes angen rôl Ysgrifennydd Cymru.

    A chofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.

  41. Stunts a Datganoli

    11 maart 2026 · 41 min

    Beluister deze aflevering
    Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau o fewn y blaid Lafur ar ôl i nodyn gan Syr Keir Starmer rhybuddio aelodau ei gabinet rhag dangos gormod o barch i'r llywodraethau datganoledig. Lees meer

    Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds yn trafod gobeithion y blaid yn etholiad Senedd Cymru.

    Ac ar ôl lansiad maniffesto etholiad Reform UK beth mae'r ddogfen yn ei ddweud wrthym ni am y blaid?

    Mae Bethan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  42. Ras y Maniffestos

    4 maart 2026 · 27 min

    Beluister deze aflevering
    Gyda'r Ceidwadwyr a Reform UK yn lansio eu maniffestos yr wythnos hon mae Vaughan a Richard yn trafod eu pwysigrwydd. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod cynllun 100 niwrnod cynta' Plaid Cymru pe baen nhw mewn llywodraeth ar ôl Etholiad y Senedd ym mis Mai. Lees meer

    Ac mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  43. Golau Gwyrdd i'r Gwyrddion

    27 februari 2026 · 27 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl buddugoliaeth hanesyddol i'r Blaid Werdd yn is-etholiad Gorton and Denton mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd y canlyniad. Mae Gareth Hughes o'r Blaid Werdd hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod beth all hyn golygu ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai. Lees meer
  44. Sgandalau Gwleidyddol

    25 februari 2026 · 25 min

    Beluister deze aflevering
    Wrth i sgandal Peter Mandelson parhau i ddominyddu’r agenda gwleidyddol, mae Vaughan a Richard yn trafod sgandalau gwleidyddol dros y blynyddoedd. Lees meer

    Mae'r ddau hefyd yn trafod ymgyrch y pleidiau yn yr isetholiad yn Gorton a Denton.

    Ac os oes gyda chi unrhyw gwestiwn i'r ddau cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  45. Nôl ar y cledrau?

    18 februari 2026 · 37 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n ariannu cynlluniau i wella isadeiledd rheilffyrdd Cymru gyda buddsoddiad o £14 biliwn o bunnau, mae Vaughan a Richard yn trafod y wleidyddiaeth tu ôl i'r datganiad. Lees meer

    Mae'r cynhyrchydd teledu, Steffan Morgan yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod ei raglen fydd ar S4C, Reform UK - Tu ôl i'r llenni, sy'n dilyn y blaid yn ardal Llanelli a Chaerfyrddin.

    Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  46. Wythnos Ryfeddol

    11 februari 2026 · 35 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl wythnos dymhestlog yn Downing Street, mae aelod Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod y pwysau sydd wedi bod ar Keir Starmer a'r feirniadaeth bod Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan heb fynegi safbwynt clir am ei ddyfodol. Lees meer

    Mae'r tri yn trafod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth a gobeithion Llafur ar gyfer Etholiad y Senedd.

  47. Dewis Dan-nisgwyl?

    5 februari 2026 · 20 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl i Reform UK ddewis eu harweinydd yng Nghymru - Vaughan, Richard a Dan Davies sy'n holi; pwy yw Dan Thomas? A beth yw arwyddocâd ei benodiad i'r blaid? Lees meer

    Ac wrth i'r pwysau gynyddu ar Keir Starmer - mae'r tri'n dadansoddi effaith sgandal Peter Mandelson ar arweinyddiaeth y Prif Weinidog.

  48. Anawsterau’r Arglwydd

    4 februari 2026 · 30 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl i'r heddlu ddechrau ymchwiliad troseddol i honiadau bod Peter Mandelson wedi rhannu gwybodaeth sensitif â Jeffrey Epstein pan oedd e'n weinidog cabinet, mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o niwed mae'r sgandal wedi neud i arweinyddiaeth y Prif Weinidog Keir Starmer. Lees meer

    Mae'r tri hefyd yn trafod y diweddara' yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ateb eich cwestiynau.

    Cofiwch bod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  49. Blocio Burnham

    28 januari 2026 · 24 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl i Faer Manceinion, Andy Burnham gael ei atal rhag sefyll yn yr isetholiad ar gyfer San Steffan mae Vaughan a Richard yn trafod beth all hynny olygu i'r Prif Weinidog, Keir Starmer. Lees meer

    Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi’r tensiynau o fewn Llafur Cymru ar ôl i'r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood fynnu na fydd Senedd Cymru yn cael pŵer ar blismona.

    Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

  50. Croesi'r Llawr?

    21 januari 2026 · 28 min

    Beluister deze aflevering
    Ar ôl i ddau aelod mainc flaen y Ceidwadwyr gael eu taflu allan o'r blaid yn San Steffan a Bae Caerdydd, mae Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn trafod arwyddocâd hynny i'r Torïaid a Reform. Lees meer

    Hefyd fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol pleidiau, mae Gareth Hughes o'r blaid Werdd yn trafod gobeithion y blaid yn etholiad Senedd Cymru wedi arolwg barn calonogol iddi hi yn ddiweddar.

    Cofiwch fod modd cysylltu gyda unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk