Alle afleveringen
146 afleveringen, van nieuw naar oud
-
Prif Weinidog Nesaf Cymru?
14 januari 2026 · 47 min
Beluister deze afleveringBethan Rhys Roberts yn holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwleidyddion blaenllaw o’r gwahanol bleidiau. Rhagor o drafod hefyd gyda Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.
-
"Her fwyaf Llafur yng Nghymru ers 1983"
7 januari 2026 · 36 min
Beluister deze afleveringAelod Llafur Blaenau Gwent o'r Senedd, Alun Davies sy'n westai ar y podlediad yr wythnos hon, ac wrth edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru eleni mae'n dweud bod y Blaid Lafur yn wynebu’r her etholiadol fwyaf yng Nghymru ers 1983. Lees meer
Mae Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn trafod ei sylwadau ac yn dadansoddi gobeithion y blaid ar gyfer mis Mai.
Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Ta Ta 2025, Helo 2026
29 december 2025 · 1 uur 2 min
Beluister deze afleveringWrth i 2025 ddod i ben, mae Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn edrych yn ôl ar y flwyddyn wleidyddol ac yn edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru 2026. Lees meer
Mae'r ddau yn cael cwmni cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, gohebydd Seneddol San Steffan BBC Cymru, Catrin Haf Jones a gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Dan Davies.
Ymhlith y pynciau dan sylw; buddugoliaeth Plaid Cymru yn is-etholiad Caerffili, yr heriau sy'n wynebu'r blaid Lafur a pha fath o ymgyrch allwn ni ei ddisgwyl cyn i Gymru bleidleisio ar y seithfed o Fai.
-
Ding Dong 'Dolig
17 december 2025 · 28 min
Beluister deze afleveringBethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau mewnol o fewn y blaid Lafur ac arolwg barn newydd sy'n awgrymu bod Plaid Cymru yn dal i ennill tir wrth i ni agosáu at Etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesa'. Lees meer
Mae'r ddau hefyd yn trafod aelodaeth pleidiau gyda Reform yn honni mae hi yw'r blaid sydd a'r nifer fwyaf o aelodau ar draws Prydain.
Cofiwch fod modd i chi gysylltu gyda unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Golau Gwyrdd i Gyllideb y Llywodraeth
10 december 2025 · 25 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Blaid Cymru dod i gytundeb gyda Llywodraeth Llafur Cymru ar y gyllideb mae Vaughan a Richard yn dadansoddi beth gall y goblygiadau fod i Rhun ap Iorwerth a'i blaid. Mae'r ddau hefyd yn trafod llythyr gan nifer o Aelodau Llafur y Senedd ym Mae Caerdydd at y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer yn cyhuddo ei lywodraeth o beidio parchu datganoli. Lees meer
Ac ar ôl cwestiynau dros y penodau dwetha' am annibynwyr yn sefyll yn etholiadau'r Senedd mae Vaughan a Richard yn edrych nôl ar eraill sydd wedi bod yn ymgeiswyr yn y gorffennol.
Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Rhagolygon Ceidwadol
3 december 2025 · 31 min
Beluister deze afleveringGyda llai na chwe mis i fynd tan etholiad Senedd Cymru, mae Vaughan a Richard yn pwyso a mesur gobeithion Y Ceidwadwyr Cymreig yng ngwyneb twf y gefnogaeth i Reform. Lees meer
Mae Paul Davies, aelod Preseli Sir Benfro a chyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd hefyd yn rhoi dadansoddiad o'r heriau sy'n wynebu ei blaid dros y misoedd nesaf.
Mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Mae modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Cyllideb risg uchel?
26 november 2025 · 21 min
Beluister deze afleveringAr ôl i'r Canghellor, Rachel Reeves, gyhoeddi ei chyllideb mae Vaughan a Richard yn trafod ei chynlluniau yng nghwmni Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Catrin Haf Jones gohebydd Seneddol, BBC Cymru. Lees meer
Mae'r pedwar yn dadansoddi'r goblygiadau gwleidyddol a beth fydd yn ei olygu i Lywodraeth Cymru.
-
For Caerffili, Read Copenhagen
19 november 2025 · 33 min
Beluister deze afleveringWrth i'r Llywodraeth Lafur yn Llundain gyflwyno newidiadau i'r system fewnfudo sy'n seiliedig i raddau helaeth ar y drefn yn Nenmarc, Vaughan Roderick, yr Athro Richard Wyn Jones a chyn-gyfarwyddwr cyfathrebu rhif 10 gyda Boris Johnson, Guto Harri sy'n trafod pa wersi sydd i'w dysgu o'r profiad yn y wlad honno. Hefyd, beth mae mewnfudo yn ei olygu i wleidyddiaeth yn y cyd-destun Cymreig? Lees meer
Mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Mae modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Streeting i aros yn ffyddlon?
12 november 2025 · 34 min
Beluister deze afleveringAr ôl i rai o gefnogwyr Syr Keir Starmer ddweud wrth y BBC bod Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Wes Streeting am herio'r prif weinidog mae Vaughan a Richard yn ceisio dirnad beth yn union sy'n mynd ymlaen yn rhengoedd y blaid Lafur. Mae cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys yn ymuno â'r ddau i ddadansoddi’r cyfan. Lees meer
Mae'r cyn newyddiadurwr, ac ymgeisydd y blaid Werdd yn isetholiad Caerffili, Gareth Hughes yn trafod dylanwad arweinydd newydd y blaid Zack Polanski ac yn trafod gobeithio'n y blaid ar gyfer etholiad y Senedd blwyddyn nesaf.
Cofiwch fod modd i chi gysylltu â gofyn cwestiwn i Vaughan a Richard trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Y Gyllideb, Fformiwla Barnett a 'Nonsens' Gwleidyddol
5 november 2025 · 31 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r gyllideb ddrafft mae Vaughan a Richard yn dadansoddi sut y gall hi gael ei phasio. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr, yn ymuno â'r ddau i drafod, chwe mis cyn etholiad y Senedd, ac yn holi pam bod cymaint o'r pleidiau dal heb gyhoeddi eu hymgeiswyr. Lees meer
Mae Vaughan, Richard ac Elliw hefyd yn ateb cwestiynau gan wrandawyr. Cofiwch fod modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.
-
Plaid a Reform - Rheoli Disgwyliadau
29 oktober 2025 · 40 min
Beluister deze afleveringMae Bethan Rhys Roberts yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod canlyniad isetholiad Caerffili. Mae'r tri yn dadansoddi ymgyrch Reform UK ac yn trafod os oedd y canlyniad yn fethiant i'r blaid. Mae Cai Parry Jones o Reform UK yn ymuno i drafod y canlyniad gan edrych tuag at etholiad y Senedd blwyddyn nesa'. Lees meer
Mae Vaughan, Richard a Bethan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd i chi gysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Plaid yn Cipio Caerffili
24 oktober 2025 · 25 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Blaid Cymru ennill yr isetholiad yng Nghaerffili mae'r Arglwydd Dafydd Wigley yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod arwyddocad y canlyniad.
Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi beth mae'r canlyniad yn ei olygu i Reform UK ac i'r Blaid Lafur wrth i etholiad y Senedd blwyddyn nesaf nesau. Lees meer -
D'Hud a D'Lledrith D'Hondt
22 oktober 2025 · 18 min
Beluister deze afleveringGydag etholiad y Senedd ychydig dros chwe mis i ffwrdd mae Vaughan a Richard yn trafod sut fydd y system bleidleisio newydd, fformiwla D'Hondt, yn gweithio. Mae Richard yn dadansoddi beth fydd y canran o bledleisiau tebygol fydd ei angen ar y pleidiau i ennill sedd yn y bae. Lees meer
Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch bod modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
-
Cynhadledd Plaid Cymru a Thactegau Ymgyrchu'r Pleidiau
15 oktober 2025 · 35 min
Beluister deze afleveringCyn ddirprwy Brif Weinidog Cymru a chyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon. Mae'r tri yn dadansoddi cynhadledd y blaid a'r awyrgylch ymhlith aelodau gydag etholiad y Senedd flwyddyn nesa' ar y gorwel, a sut all deinameg y pleidiau edrych yn y Bae yn 2026. Lees meer
A chydag is-etholiad Caerffili yn agosáu mae'r tri yn trafod sut mae tactegau ymgyrchu'r pleidiau wedi newid, a sut mae'r pleidiau yn ffocysu ar etholwyr.
-
Cynhadledd y Ceidwadwyr a'r Bedyddwyr Albanaidd (ETO)
8 oktober 2025 · 24 min
Beluister deze afleveringArweinyddiaeth arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, sy'n mynd â phrif sylw Vaughan a Richard yr wythnos hon ar ôl ei haraith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Mae'r Cynghorydd Aled Thomas yn ymuno a'r ddau wedi iddo fod yn y gynhadledd ym Manceinion. Lees meer
A beth yw'r cysylltiad rhwng Llanllyfni a'r Bedyddwyr Albanaidd?
-
Cynhadledd Llafur a'r Bedyddwyr Albanaidd
1 oktober 2025 · 25 min
Beluister deze afleveringAr ôl i gynhadledd y Blaid Lafur ddod i ben yn Lerpwl, mae cyn Brif Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod araith Keir Starmer. A fydd e'n llwyddo i ysbrydoli ei blaid? Lees meer
Ac mae Richard yn sôn am ei obsesiwn diweddaraf, sef y Bedyddwyr Albanaidd, a dylanwad gwleidyddol sylweddol yr enwad yng Nghymru!
-
Ai Jeremy Miles fydd yr olaf?
24 september 2025 · 22 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, gyhoeddi na fydd yn ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd flwyddyn nesaf, mae cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod yr effaith ar y blaid. Lees meer
Gyda llai na mis i fynd tan isetholiad Caerffili mae'r tri yn dadansoddi'r ymgyrch hyd yma ac yn trafod y data sydd gan y pleidiau ar gyfer etholiadau.
-
Ble nesaf i'r blaid Lafur?
17 september 2025 · 24 min
Beluister deze afleveringAr ôl cyfweliad Owain Williams gyda Vaughan yn y bennod ddiwethaf mae Richard yn trafod ei oblygiadau i'r blaid Lafur a'r tensiynau sydd yn y blaid ymhlith y carfanau gwahanol. Mae Richard a Vaughan hefyd yn dadansoddi'r arolwg barn diweddara' gan ITV a Phrifysgol Caerdydd ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai. Lees meer
-
Dewis Ymgeiswyr Llafur - Cyfweliad Owain Williams
14 september 2025 · 17 min
Beluister deze afleveringGydag etholiad y Senedd yn prysur agosáu mae'r pleidiau wedi bod yn mynd ati i ddewis eu hymgeiswyr ar gyfer yr etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesa'. Mi oedd Owain Williams yn gobeithio bod ar restr y blaid Lafur yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf ond fe fethodd. Lees meer
Mewn cyfweliad arbennig gyda'n golygydd materion Cymreig Vaughan Roderick - mae'n sôn am broses y blaid o fynd ati i ddewis ymgeiswyr.
-
Problemau Llafur yn Pentyrru ac Is-etholiad Caerffili
10 september 2025 · 27 min
Beluister deze afleveringGyda'r tymor gwleidyddol newydd yn San Steffan wedi dechrau mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod effaith ad-drefnu cabinet Keir Starmer ar y blaid Lafur. Lees meer
Ar ôl marwolaeth drasig Hefin David yn 47 oed - mae'r tri yn trafod yr isetholiad yng Nghaerffili. Gyda Richard yn ei ddisgrifio fel is etholiad 'gwirioneddol hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru'.
Ac mae Vaughan yn sôn am y newid technolegol a ddefnyddiwyd am y tro cynta' yng ngwleidyddiaeth Prydain yn is etholiad Caerffili yn 1968.
-
Canrif o Blaid Cymru
11 augustus 2025 · 49 min
Beluister deze afleveringWedi ei recordio yn fyw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Vaughan a Richard yn edrych nôl ar gan mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru. Mae'r ddau yn trafod gweledigaeth y sylfaenwyr, a sut mae’r blaid wedi datblygu dros y degawdau. Lees meer
Roedd sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa hefyd ynglŷn ag etholiad y Senedd flwyddyn nesa', a sut mae gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn newid yn sgîl dyfodiad Reform UK.
-
Y Prif Weinidog o dan bwysau
6 augustus 2025 · 26 min
Beluister deze afleveringFlwyddyn ers i'r fenyw gyntaf ddod yn Brif Weinidog Cymru mae Vaughan yn holi Eluned Morgan am ei phrofiad o arwain y llywodraeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Lees meer
Mae hi'n dweud bod yn rhaid i'r blaid Lafur ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r etholwyr nid "nonsens gwleidyddol mewnol".
Mae Yr Athro Richard Wyn Jones yn dadansoddi'r heriau sy'n ei hwynebu cyn Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' ac yn trafod dyfodol y blaid Lafur yng Nghymru.
Dros y misoedd nesaf mi fydd Vaughan yn cyfweld arweinwyr a ffigyrau amlwg o'r pleidiau eraill.
-
Reform yn y Senedd a Phlaid Newydd Corbyn
25 juli 2025 · 30 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Reform sicrhau ei haelod cynta' yn y Senedd wrth i Laura Anne Jones adael y Ceidwadwyr, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd ei phenderfyniad. Lees meer
Ma' cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod plaid newydd y cyn-arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.
-
Adroddiad Diwedd Tymor
16 juli 2025 · 29 min
Beluister deze afleveringGyda thymor y Senedd yn y Bae yn dod i ben mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod sut mae'r pleidiau wedi gwneud dros y misoedd dwetha'.
Mae'n union flwyddyn ers i Vaughan Gething ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru - faint o gysgod mae ei gyfnod wrth y llyw yn parhau i gael ar wleidyddiaeth Cymru ac ar y blaid Lafur? Lees meerA gydag adroddiadau bod Jeremy Corbyn yn ystyried creu plaid newydd - faint o effaith fyddai hynny'n ei gael ar etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'?
-
Blwyddyn o boen i Starmer?
2 juli 2025 · 28 min
Beluister deze afleveringMae'r Aelod o’r Senedd Llafur, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod blwyddyn o Lywodraeth Syr Keir Starmer mewn grym yn San Steffan. Ar ôl i 49 Aelod Seneddol Llafur bleidleisio yn erbyn mesur i ddiwygio'r system les - faint o hygrededd sydd gan y Prif Weinidog bellach?
Mae Alun hefyd yn sôn wrth Vaughan am yr heriau sy'n wynebu'r blaid yng Nghymru a beth sydd angen digwydd er mwyn i Lafur lwyddo yn Etholiad y Senedd 2026. Lees meer -
Mwyafrif mawr lot fwy o broblem na mwyafrif bach?
25 juni 2025 · 22 min
Beluister deze afleveringGyda dros 120 o Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi ymgais i atal cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri rhai budd-daliadau anabledd a salwch mae Vaughan a Richard yn trafod y rhwyg yn y blaid a'r her ma hwn yn achos i'r Prif Weinidog Keir Starmer. Lees meer
Mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr hefyd yn ymuno a'r ddau i ddadansoddi'r tensiynau o fewn y blaid ac mae'r tri yn trafod sut ma' Llafur a Reform yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd blwyddyn nesa'.
-
Yn fyw o Tafwyl
16 juni 2025 · 37 min
Beluister deze afleveringMewn pod wedi ei recordio'n fyw o ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae Vaughan a Richard yn trafod os yw Llywodraeth Cymru ar eu hennill wedi adolygiad gwariant y Canghellor, Rachel Reeves. Lees meer
Mae'r ddau hefyd yn trafod sut mae gwleidyddiaeth wedi newid yn ein dinasoedd.
A chyfle i'r gynulleidfa holi cwestiynau i Vaughan a Richard.
-
Arian, Arian, Arian - ond faint i Gymru?
11 juni 2025 · 24 min
Beluister deze afleveringGyda'r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi ei hadolygiad gwariant i adrannau Llywodraeth y DU - faint o arian newydd sydd i Gymru? Lees meer
Mae gohebydd gwleidyddol y BBC Elliw Gwawr, cyn olygydd gwleidyddol y BBC Betsan Powys a'r cyn Aelod Seneddol, Jonathan Edwards yn dadansoddi'r cyfan gyda Vaughan.
Ac a oes gormod o bŵer gan y pleidiau wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'?
-
Ffrae o fewn Reform UK, sioc i Lafur, a siom i’r SNP
6 juni 2025 · 14 min
Beluister deze afleveringAr ddiwedd wythnos gythryblus arall yn y byd gwleidyddol, Kate Crockett sy’n holi Llyr Powell o Reform UK yn dilyn ymddiswyddiad Zia Yusuf fel cadeirydd y blaid. Lees meer
Ac mae ‘na sioc wleidyddol draw yn yr Alban, wedi i Lafur gipio sedd gan yr SNP mewn isetholiad. Mae’r athro Richard Wyn Jones yn trafod beth all hynny ei olygu i obeithion Llafur Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
-
Yr ifanc am bleidleisio?
30 mei 2025 · 24 min
Beluister deze afleveringFel rhan o'u taith dros yr haf mae Vaughan a Richard wedi bod i Eisteddfod yr Urdd i ddadansoddi perthynas pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Mae dau aelod o'r Senedd Ieuenctid, Maisie a Ffion yn ymuno â'r ddau i drafod cyflwyno'r bleidlais i bobl ifanc 16 oed a throsodd a'r pynciau sydd o bwys i'r to ifanc. Lees meer
-
Brexit yn ôl ar y fwydlen?
21 mei 2025 · 20 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cytundeb newydd â'r Undeb Ewropeaidd - ydy'r bartneriaeth ag Ewrop yn ôl ar yr agenda gwleidyddol? Mae Vaughan a Richard yn trafod y polau piniwn diweddara' ac yn ymateb i'r arolwg barn Cymreig arwyddocaol gafodd ei gyhoeddi bythefnos yn ôl. A pham ymddiheurodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts? Lees meer
-
Ffordd goch Gymreig?
7 mei 2025 · 34 min
Beluister deze afleveringWythnos enfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru gydag araith gan Brif Weinidog, Eluned Morgan yn ceisio ymbellhau rhag Keir Starmer a'i lywodraeth. Fe ddaw hwn ar ôl i bôl piniwn newydd roi'r Blaid Lafur yn drydedd ar gyfer etholiadau'r Senedd a Phlaid Cymru yn gyntaf - mae Richard yn dadansoddi'r cyfan. Lees meer
Yn y stiwdio gyda Vaughan, mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr a Desmond Clifford - cyn Prif Ysgrifennydd Preifat i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Mark Drakeford yn trafod goblygiadau'r pôl piniwn gyda blwyddyn i fynd cyn etholiad y Senedd.
-
Y Tir Canol
30 april 2025 · 19 min
Beluister deze afleveringYn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr. Lees meer
-
Y Tir Canol
30 april 2025 · 19 min
Beluister deze afleveringYn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr. Lees meer
-
Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
16 april 2025 · 30 min
Beluister deze afleveringA hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau. Lees meer
-
Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
16 april 2025 · 30 min
Beluister deze afleveringA hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau. Lees meer
-
Datganiad Gwanwyn y Canghellor
26 maart 2025 · 21 min
Beluister deze afleveringAr ddiwrnod Datganiad Gwanwyn y Canghellor, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy'n trafod yr anniddigrwydd o fewn rhengoedd y Blaid Lafur a thymor cynadleddau Gwanwyn y pleidiau
-
Cyllideb Cymru a Phwy fydd Ymgeiswyr y Pleidiau?
5 maart 2025 · 26 min
Beluister deze afleveringAr ôl i'r Senedd gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru mae Elliw Gwawr yn ymuno â Richard a Vaughan i drafod y cyfan. Mae'r tri hefyd yn dadansoddi sut mae'r pleidiau yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026 a'r tensiynau all godi ymhlith y pleidiau. Lees meer
-
Diwygiad ar Droed?
19 februari 2025 · 27 min
Beluister deze afleveringGyda'r arolygon barn yn awgrymu y bydd Reform yn mwynhau llwyddiant yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' mae Elliw Gwawr yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod sut all ei apêl newid gwleidyddiaeth Cymru. Lees meer
Mae'r tri hefyd yn trafod pam fod 10 Aelod o'r grŵp Llafur yn y Bae ddim am sefyll yn etholiad 2026; faint o broblem fydd hynny i'r blaid?
-
Ail ddaergryn ar droed?
29 januari 2025 · 23 min
Beluister deze afleveringYr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod gobeithion Plaid Cymru yn Etholiad Senedd 2026. A fydd y blaid yn medru ail-adrodd y llwyddiant a welwyd yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999 y flwyddyn nesaf? Lees meer
Mae'r Arglwydd Wigley hefyd yn esbonio pam mai arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth fydd Prif Weinidog Cymru ar ôl yr etholiad nesa'.
-
Llafur Caled
15 januari 2025 · 26 min
Beluister deze afleveringMae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026. Lees meer
Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur San Steffan a Llafur Cymru. Oes angen i Eluned Morgan dorri cwys ei hun ac ymbellhau oddi wrth Keir Starmer?
-
Golwg ar y Flwyddyn Wleidyddol
18 december 2024 · 1 uur 1 min
Beluister deze afleveringYn ymuno â Vaughan a Richard ym mhennod ola'r flwyddyn mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, aelod Ceidwadol dros Dde Orllewin yn Senedd Cymru, Tom Giffard a Nerys Evans o gwmni materion cyhoeddus Deryn sydd hefyd yn gyn aelod Cynulliad Plaid Cymru. Lees meer
Digwyddiadau y flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd fydd dan sylw gan gynnwys ymddiswyddiad Vaughan Gething, etholiad cyffredinol 2024 ac mae'r pump hefyd yn ceisio gan ddarogan beth fydd ar yr agenda gwleidyddol yn y misoedd i ddod.
-
Ta Ta RT
4 december 2024 · 31 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r heriau i'r blaid ac yn gofyn pwy sy'n debygol o'i olynu.
Mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg 360 yn y Senedd yn ymuno i drafod sut all Llywodraeth Cymru pasio ei gyllideb wythnos nesa'.
Ac ar ôl i arolwg barn newydd osod Plaid Cymru ar y blaen am y tro cyntaf ers 2010, Llafur a Reform yn gydradd ail a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd. Beth all hyn olygu i'r pleidiau? Lees meer -
Pwy ydyn ni? A sut mae'n effeithio ar ein pleidlais?
27 november 2024 · 22 min
Beluister deze afleveringSut mae ein hunaniaeth yn effeithio ar y ffordd 'da ni'n mynd ati i bleidleisio? Dyna sy'n cael sylw Vaughan a Richard yn y bennod ddiweddara. Mae'r ddau yn trafod sut mae patrymau pleidleisio wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Lees meer
Hefyd, trafod llyfr Richard sy'n astudio meddylfryd gwleidyddol Plaid Cymru o 1925 i 1997.
-
Trump yn y Tŷ Gwyn ac effaith y gyllideb ar Gymru
6 november 2024 · 28 min
Beluister deze afleveringBethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America. Lees meer
Wythnos wedi'r gyllideb mae Guto Ifan hefyd yn ymuno i drafod goblygiadau cyhoeddiad Rachel Reeves ar Gymru.
Ac ar ôl i Kemi Badenoch gael ei hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr, mae'r ddau yn trafod yr heriau i'r blaid ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru.
-
Cyfraniad Alex Salmond a 100 diwrnod cyntaf Llafur
15 oktober 2024 · 28 min
Beluister deze afleveringAr ôl marwolaeth cyn Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, mae Vaughan a Richard yn trafod ei farc ar wleidyddiaeth Prydain. Mae'r ddau hefyd yn trafod 100 diwrnod cyntaf Keir Starmer yn Downing Street ac yn edrych ymlaen at y ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol rhwng Kemi Badenoch a Robert Jenrick. Lees meer
-
Tymor Newydd yn Dechrau
18 september 2024 · 31 min
Beluister deze afleveringGyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r grŵp Llafur yn y Bae. Lees meer
Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.
-
O Faes yr Eisteddfod
7 augustus 2024 · 35 min
Beluister deze afleveringWedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau. Lees meer
-
Eluned Morgan yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru
24 juli 2024 · 29 min
Beluister deze afleveringCyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hapêl i etholwyr Cymru. Lees meer
-
Ymddiswyddiad Vaughan Gething
17 juli 2024 · 25 min
Beluister deze afleveringAr ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy’n trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae’r ddau yn dadansoddi'r hyn mae’n golygu i’r Blaid Lafur a’r heriau fydd yn wynebu grŵp y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy’n debygol o sefyll os oes ras i’w olynu. Lees meer